Cywyd moliant i'r eos a dychan i'r fran
1 Gwae fi o gariad gwiw fun
2 nat ytwyf yng-hoed Eutun
3 lles nifer ger llys nefawl
4 lle y mae galluau mawl
5 yscyndwr maen ar gaen galch
6 yscynfa êos gein-falch
7 ys gwyr hi hydr yw'n gormail
8 ysgwn daith dann ysgin dail
9 main y cân prif acen prudd
10 mên a threbl mwyn ei thrablyudd
17 Egwyddor gain firein fyw
18 O gôr dail ei gariad yw
13 Cethl wynfyd coeth lawen-ferch
14 Canghenddring cain sawdring serch
15 Prid yw ei chof gan Ofydd
16 prydyddes gwehyddes gwydd
11 llonn fydd yn nydd ac yn nos
12 llef ddiledlef dda loew-dlos
19 fel yr oeddwn heb ormail
20 Cwpl da o fewn capel dail
21 Yn gwrandaw yn ddifreg
22 Yfferen dann ddeilien deg
23 Gan lasswyr-wraig y cariad
24 Caniadau mydr-leisiau mad
25 Nycha'r frân anwych ar frig
26 Lafar ysgyflgar gofl-gig
27 Yn dwyn rhuthr dan dinrhythu
28 I blâs yr edn cein-las cu
35 llesteiriodd hi ddigrifwch
36 llaes ei phlu a'i lleissiau phlwch
31 Sef gwnaeth deuluwriaeth dail
32 yr eos fygr ar wiail
33 Cynhewi a thristasu
34 Gan bres yr Iddewes ddu
37 Doeth ni bu anoeth ynof
38 Duw a'i gwyr nad a o gof
39 Dychymyg bonheddig bwyll
40 Rhag ardang bum rhagor-dwll
41 ffull goluddion heb don deg
42 ffollach wegil-grach gul-greg
43 Edn eiddig wyd anaddwyn
44 A dref drwg ei llef o'r llwyn
47 Marw pan glywaist weiddi
48 fu'r ych dwn nac eiriach di
49 Nessa 'r edn gylfin-grwn
50 Na sorr gwna ar ei dorr dwn
51 Credodd fy mod ar y gwir
52 Crwydr arnai giccai geg-hir
53 Cefais gan lathrlas ascell
54 Lys o ddail leisiau oedd well
Dauid ap Gwilym